Paragraph 53
Dylech ateb “Nac ydw” i'r cwestiwn hwn pan fo'r gofal yn cael ei ddarparu gennych chi neu'ch partner am blentyn a enwir yng nghwestiwn 4.15 a bod un partner yn codi tâl ar y llall am ddarparu'r gofal.
Dylech ateb “Nac ydw” i'r cwestiwn hwn hefyd pan fo'ch treuliau gofal plant wedi'u talu'n ôl mewn perthynas â'ch cyfranogaeth mewn rhaglen gyflogaeth a nodir yn rheoliad 75(1)(a)(ii) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996 neu mewn cynllun hyfforddiant a nodir yn rheoliad 75(1)(b)(ii) o'r Rheoliadau hynny.