Paragraph 54
Dyma'r ysgolion a'r sefydliadau eraill y cyfeirir atynt, ac sydd wedi'u hesemptio rhag cofrestru o dan adran 71 o Ddeddf Plant 1989 gan baragraffau 3 a 4 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno:
gan baragraff 3 o Atodlen 9—
-
ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol;
-
ysgol o dan reolaeth awdurdod addysg;
-
ysgol y gwneir taliadau mewn perthynas â hi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 100 o Ddeddf Addysg 1944;
-
ysgol annibynnol;
-
ysgol a gynorthwyir â grant;
-
ysgol a gynhelir â grant;
-
ysgol hunanlywodraethol;
-
canolfan chwarae a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 53 o Ddeddf Addysg 1944;
pan ofelir am y plentyn dan sylw o dan drefniadau gofal dydd wedi'u gwneud gan y person sy'n rhedeg y sefydliad fel rhan o'i weithgareddau neu gan un o'i weithwyr cyflogedig yn y sefydliad a hwnnw wedi'i awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau'r sefydliad; a
gan baragraff 4 o'r Atodlen honno—
-
cartref plant cofrestredig;
-
cartref gwirfoddol;
-
cartref cymuned;
-
cartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl y mae'n ofynnol ei gofrestru o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984;
-
ysbyty gwasanaeth iechyd;
-
cartref a ddarperir, a gyfarperir ac a gynhelir gan yr Ysgrifennydd Gwladol; pan ofelir am y plentyn dan sylw o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan yr adran, yr awdurdod neu unrhyw berson arall sy'n rhedeg y sefydliad fel rhan o'i weithgareddau neu gan weithiwr cyflogedig yn y sefydliad sydd wedi'i awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau'r sefydliad.