OpenLegislation

Regulation 3 Amendments

Original text. Later amendments are not shown.

In the (Welsh language) form set out in the Schedule to the Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999f1:

(a)

after question 4.34A insert:

“4.34B

Rhowch fanylion unrhyw daliad o'r ymddiriedolaeth vCJD sydd wedi'i dalu i chi, i'ch partner neu i aelod o'ch teulu neu fanylion unrhyw daliad sydd wedi'i dalu i chi, i'ch partner neu i aelod o'ch teulu gan berson arall neu o ystad person arall ac sydd wedi'i dalu o daliad o'r ymddiriedolaeth vCJD a gafodd y person arall hwnnw. Nodyn 50E”;

(b)

after note 50D insert:

“50E

Taliad o'r ymddiriedolaeth vCJD yw taliad sy'n cael ei dalu, o ymddiriedolaethau sydd wedi'u sefydlu gan yr Adran Iechyd, i'r rhai a gafodd amrywiolyn clefyd Creutzfeldt-Jakob (vCJD) a'u teuluoedd agos.

  • Er mwyn penderfynu a yw rhywun yn aelod o'ch teulu, ystyr “teulu” yw:

    1. (a)

      pâr priod neu bâr dibriod;

    2. (b)

      pâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae un ohonynt neu'r ddau ohonynt yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc;

    3. (c)

      person nad yw'n aelod o bâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae'r person hwnnw yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc.

  • Mae taliad sydd wedi'i dalu i ddioddefwr vCJD neu i bartner y dioddefwr neu i bartner sydd wedi'i oroesi yn cael ei anwybyddu drwy gydol oes y person hwnnw.

  • Mae taliad sydd wedi'i dalu i riant dioddefwr vCJD, ni waeth beth fo oedran y dioddefwr, neu i berson sydd neu a oedd yn gweithredu yn lle rhiant i blentyn dibynnol sy'n ddioddefwr, yn cael ei anwybyddu am 2 flynedd o'r dyddiad y cafodd y taliad ei dalu iddynt.

  • Mae taliadau sydd wedi'u talu i blant neu bersonau ifanc dibynnol yn cael eu hanwybyddu drwy gydol y cyfnod o ddyddiad y taliad tan y diwrnod cyn iddynt ymadael ag addysg amser-llawn neu'r diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 19 oed neu am 2 flynedd o ddyddiad y taliad, p'un bynnag yw'r dyddiad olaf.?C?”

Annotations

Footnotes

f1

S.I. 1999/2315 as amended by S.I. 1999/3469 (W. 55), 2000/1710 (W. 116) and 2001/2072 (W. 144).