OpenLegislation

Paragraph 2 O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n goetir llydanddail–

Original text. Later amendments are not shown.

(1)

rhaid i'r ffermwr gadw da byw allan;

(2)

rhaid i'r ffermwr, cyn pen chwe mis ar o*l dechrau'r cytundeb, gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli'r coetir llydanddail oddi wrth berson neu gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

(3)

rhaid i'r ffermwr, cyn pen naw mis ar o*l dechrau'r cytundeb, gytuno yn ysgrifenedig gyda'r Ysgrifennydd Gwladol–

(a)

ar raglen reoli i adfywio'r coetir llydanddail, a

(b)

ar raddfa amser ar gyfer gweithredu'r rhaglen reoli honno;

(4)

rhaid i'r ffermwr, cyn pen pymtheng mis ar o*l dechrau'r cytundeb, ddechrau gwaith ar y rhaglen reoli i adfywio'r coetir llydanddail y cytunwyd arni gyda'r Ysgrifennydd Gwladol.