OpenLegislation

Schedule 2 FORMS OF WORDS IN WELSH FOR ADDITIONAL PROVISIONS AND DEFINITIONS SPECIFIED IN ARTICLE 2(1) OF AND SCHEDULE 2 TO THE ENVIRONMENTALLY SENSITIVE AREAS (RADNOR) DESIGNATION ORDER 1993

Original text. Later amendments are not shown.

(i)

ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Maesyfed) 1993;

(ii)

ystyr “coetir llydanddail” yw tir a ddefnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill;

(iii)

ystyr “pentir cadwraeth” yw llain o dir âr sy'n fan rhwng llinell sy'n rhedeg yn gyfochrog â ffin cae ar bellter o 2 fetr o'r ffin honno a llinell arall sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r ffin honno ar bellter o 6 metr o leiaf o'r ffin honno sef man y caniateir i bryfed buddiol a chwyn llydanddail oroesi arno, drwy ddefnyddio plaleiddiaid yn ddethol;

(iv)

ystyr “tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol” yw tir glas amgaee dig sydd heb ei aredig, ei wastata u neu ei ail–hadu'n rheolaidd ond sydd wedi'i newid drwy daenu llysleiddiaid, gwrtaith anorganig neu organig neu drwy bori dwys neu draenio;

(v)

ystyr “tir glas amgaee dig sydd heb ei wella” yw tir glas amgaee dig sydd heb ei aredig, ei wastata u, ei draenio neu ei ail–hadu yn rheolaidd, neu ei drin gyda gwrtaith anorganig neu organig, calch, llysleiddiaid neu blaleiddiaid;

(vi)

ystyr “ffermwr” yw person sydd â buddiant mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Maesyfed) 1993 ac sydd hefyd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;

(vii)

ystyr “gweirglodd” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o laswelltoedd, hesg a blodau gwyllt cynhenid;

(viii)

ystyr “grug” yw llystyfiant sy'n cynnwys Calluna vulgaris,Erica tetralixneu Erica cinerea;

(ix)

ystyr “uned da byw” yw–

(a)

1 anifail o deulu'r ych sy'n fwy na dwy flwydd oed, neu

(b)

1.66 anifail o deulu'r ych o chwe mis oed hyd at ddwy flwydd oed yn gynwysedig, neu

(c)

6.66 o ddefaid;

(x)

ystyr “tir pori garw lled–naturiol” yw tir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf y gawnen benddu Agrostis), peisgwellt (Festuca), rhedyn (Pteridium aquilinum), glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea), cawnen ddu (Nardus stricta), grug (Calluna vulgaris, Erica tetralixneu Erica cinerea), llus (Vaccinium myrtillus), plu'r gweunydd (Eriophorum) neu glwbfrwynen y mawn (Trichophorum cespitosum);

(xi)

ystyr “tir gwlyb” yw tir gyda lefel trwythiad ar wyneb y pridd neu ychydig odano drwy'r rhan fwyaf o'r flwyddyn ac mae'n cynnwys tir pori gwlyb, gwelyau cawn, ffen–gorsydd, ffeniau helyg ac, ac eithrio yn gymaint ag y mae'r tir hwnnw yn cyffinio â thir glas amgaee dig sydd heb ei wella, tir glas amgaee dig sydd wedi'i wella'n rhannol, gweirglodd neu borfeydd garw lled–naturiol, mae hefyd yn cynnwys llain o dir o leiaf 10 metr o led sy'n gyfagos i'r tir hwnnw.

  1. 1O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n dir gwlyb:–
  2. 2O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n goetir llydanddail–
  3. 3O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n weirglodd–
  4. 4O ran unrhyw borfeydd garw lled–naturiol sy'n destun cytundeb a lle mae grug yn 25 y cant o leiaf ond heb fod yn fwy na 50 y cant o'r gorchudd llystyfiant–
  5. 5O ran unrhyw dir âr sy'n destun cytundeb ac sy'n addas ar gyfer creu pentiroedd cadwraeth–
  6. 6O ran unrhyw dir âr sy'n destun cytundeb ac sy'n addas ar gyfer creu pentiroedd cadwraeth–
  7. 7O ran unrhyw dir âr sy'n destun cytundeb ac sy'n addas ar gyfer creu pentiroedd cadwraeth–
  8. 8O ran unrhyw dir âr sy'n destun cytundeb ac sy'n addas ar gyfer creu pentiroedd cadwraeth–