Paragraph 3 O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb ac sy'n weirglodd–
(1)
rhaid i'r ffermwr beidio â thorri ar gyfer gwair neu silwair cyn 15 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;
(2)
rhaid i'r ffermwr dorri o leiaf unwaith ar gyfer gwair neu silwair ar o*l 14 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn a rhaid iddo bori adladd pob toriad;
(3)
rhaid i'r ffermwr gadw da byw allan am o leiaf saith wythnos cyn y toriad cyntaf ar gyfer gwair neu silwair mewn unrhyw flwyddyn.