Paragraph 4 O ran unrhyw borfeydd garw lled–naturiol sy'n destun cytundeb a lle mae grug yn 25 y cant o leiaf ond heb fod yn fwy na 50 y cant o'r gorchudd llystyfiant–
(1)
rhaid i'r ffermwr bori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog nad yw'n fwy na 0.15 uned da byw yr hectar;
(2)
rhaid i'r ffermwr, rhwng 1 Medi mewn unrhyw flwyddyn a 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol, bori gyda gwartheg neu ddefaid yn o*l graddfa stocio flynyddol gyfartalog nad yw'n fwy na 0.10 uned da byw yr hectar.