OpenLegislation

Paragraph 19

Original text. Later amendments are not shown.

After note 51A, insert—

“51B

Dylech ateb “Nac ydwyf” i’r cwestiwn hwn lle darperir y gofal gennych chi neu’ch partner ar gyfer plentyn a enwyd yng nghwestiwn 3.22 a lle bo’r naill bartner yn codi tâl ar y llall am ddarparu’r gofal.

52

Yr ysgolion a’r sefydliadau eraill y cyfeirir atynt, sydd wedi eu heithrio rhag cofrestru o dan adran 71 Deddf Plant 1989 gan baragraffau 3 a 4 Atodlen 9 y Ddeddf honno, yw:

(a)

gan baragraff 3 Atodlen 9—

  • ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol;

  • ysgol o dan reolaeth awdurdod addysg;

  • ysgol y gwneir taliadau mewn perthynas â hi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 100 Deddf Addysg 1944;

  • ysgol annibynnol;

  • ysgol a gynorthwyir â grant;

  • ysgol a gynhelir â grant;

  • ysgol hunan-lywodraethol;

  • canolfan chwarae a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 53 Deddf Addysg 1944;

lle bo’r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan y person sy’n cynnal y sefydliad fel rhan o’i weithgareddau neu gan weithiwr iddo yn y sefydliad sydd wedi ei awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau’r sefydliad; a

(b)

gan baragraff 4 yr Atodlen honno—

  • cartref plant cofrestredig;

  • cartref gwirfoddol;

  • cartref cymunedol;

  • cartref gofal breswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl y mae gofyn eu cofrestru o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984;

  • un o ysbytai’r gwasanaeth iechyd;

  • cartref a gaiff ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

lle bo’r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan yr adran, yr awdurdod neu’r person arall sy’n cynnal y sefydliad fel rhan o’i weithgareddau neu gan weithiwr yn y sefydliad sydd wedi ei awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau’r sefydliad.”.