Paragraph
1.
Pan roir i chi bapur pleidleisio gwnewch yn siwr iddo gael ei stampio â’r marc swyddogol.
2.
Ewch â’r papur pleidleisio i un o’r cabanau pleidleisio a darllenwch ef yn ofalus. Ar y papur pleidleisio rhowch groes (X) yn y blwch i’r dde o’r gosodiad yr ydych yn pleidleisio drosto. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu fe all na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.
3.
Plygwch y papur yn ddau. Dangoswch y marc swyddogol i’r swyddog llywyddu, ond peidiwch â gadael i neb weld eich pleidlais. Rhowch y papur pleidleisio yn y blwch pleidleisiau a mynd allan o’r orsaf bleidleisio.
4.
Os bydd i chi drwy gamgymeriad ddifetha eich papur pleidleisio, ewch a’i ddangos i’r swyddog llywyddu a gofyn am un arall.