OpenLegislation

Paragraph 50

Changes not yet applied. Later legislation changes this provision in ways not yet written into the text below:

Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

  • glo mantais neu daliadau a wnaed yn lle hynny o dan adran 19(1)(a) o Ddeddf Diwydiant Glo 1994;

  • budd-dâl treth gyngor;

  • budd-dâl tai, neu daliadau trosiannol o fudd-dâl tai;

  • taliadau “Rhan III” (gweler Nodyn 45);

  • taliadau yswiriant (gweler Nodyn 46A);

  • taliadau gan Ymddiriedolaethau MacFarlane, Ymddiriedolaeth Eileen neu'r Cronfeydd Byw yn Annibynnol;

  • taliadau o'r Gronfa (gweler Nodyn 43);

  • taliadau o dan gynllun “busnes ar eich liwt eich hun”, “gwasanaeth darllenydd personol” neu gynllun “tocynnau teithio i'r gwaith”;

  • taliadau “cychwyn” i weithwyr cartref sy'n cael cymorth o dan Gynllun Gweithwyr Cartref Dall;

  • taliadau cronfa gymdeithasol o dan Ran VIII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

  • unrhyw daliad a wneir i chi neu'ch partner fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr; neu

  • unrhyw fonws yn-ôl-i'r-gwaith sy'n daladwy fel lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm yn unol ag adran 26 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995, neu daliad cyfatebol o dan erthygl 28 o Orchymyn Ceisio Gwaith (Gogledd Iwerddon) 1995.

Gellir anwybyddu mathau penodol eraill o gynilion a thaliadau cyfalaf wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen dim ond y taliadau a grybwyllir uchod y dylech beidio â'u cynnwys. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a yw taliad yn perthyn i un o'r categorïau hyn, dylech ei gynnwys a darparu manylion llawn am natur y taliad fel bod y Cyngor yn gallu penderfynu a ddylid ei anwybyddu ai peidio.