Paragraph 30 Cadeirio cyfarfodydd cyffredinolI1
England and Wales
Os yw'r cyfarwyddwyr wedi penodi cadeirydd, rhaid i'r cadeirydd lywyddu'r cyfarfodydd cyffredinol os yw'n bresennol ac yn fodlon gwneud hynny.
Os nad yw'r cyfarwyddwyr wedi penodi cadeirydd, neu os nad yw'r cadeirydd yn fodlon llywyddu'r cyfarfod, neu os nad yw'n bresennol o fewn deng munud o'r amser a bennwyd ar gyfer cychwyn y cyfarfod, rhaid i'r—
cyfarwyddwyr sy'n bresennol, neu
(os nad oes cyfarwyddwyr yn bresennol), cyfarfod,
benodi cyfarwyddwr neu aelod i weithredu fel cadeirydd y cyfarfod, a rhaid i benodi cadeirydd fod yn fusnes cyntaf y cyfarfod.
Cyfeirir at y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod yn unol â'r erthygl hon fel “cadeirydd y cyfarfod”.
Annotations
Commencement
- I1
Sch. 2 art. 30 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)