OpenLegislation

Paragraph 21 I1

United Kingdom Not yet in force

In the Welsh language text, for section 28 substitute—

“Dehongli’r Bennod hon

28
(1)

Yn y Bennod hon—

  • mae “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) i gael ei ddehongli yn unol ag adran 18;

  • mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys trên, tram, cwch neu long, hofrenfad ac awyren;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32);

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—

    1. (a)

      unrhyw fan;

    2. (b)

      strwythur symudol ac eithrio cerbyd;

    3. (c)

      stondin;

    4. (d)

      pabell;

    5. (e)

      gosodiad alltraeth o fewn yr ystyr a roddir i “offshore installation” yn Neddf Gweithiau Mwynau (Gosodiadau Alltraeth) 1971 (p.61) (gweler adran 12 o’r Ddeddf honno);

  • mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir gan adran 18(5).

(2)

Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at “annedd” yn cynnwys tir a fwynheir gyda mangre pan fo’r fangre ei hun yn annedd, oni bai bod y tir yn dir amaethyddol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 246 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1)) sy’n fwy na 0.809 hectar.”

Annotations

Commencement

I1

Sch. 19 para. 21 not in force at Royal Assent, see s. 176(3)(c)