OpenLegislation

Paragraph 33 Pleidleisio: cyffredinolI1

England and Wales

(1)

Rhaid i benderfyniad y pleidleisir arno mewn cyfarfod cyffredinol gael ei benderfynu drwy ddangos dwylo oni ofynnir yn briodol am gynnal pôl yn unol â'r erthyglau.

(2)

Os nad oes landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn aelodau o'r cwmni, yna bydd un bleidlais ar gael i'w bwrw mewn perthynas â phob fflat yn y Fangre. Rhaid i'r bleidlais gael ei bwrw gan yr aelod sy'n denant cymwys y fflat.

(3)

Ar unrhyw adeg pan fo unrhyw landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn aelodau o'r cwmni, penderfynir ar y pleidleisiau sydd ar gael i'w bwrw fel a ganlyn—

(a)

yn gyntaf, dyrennir i bob uned breswyl yn y Fangre yr un nifer o bleidleisiau sy'n hafal i gyfanswm nifer aelodau'r cwmni sy'n landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre. Bydd landlordiaid o dan les o'r fath yr ystyrir eu bod yn gyd-aelod o'r cwmni eu cyfrif fel un aelod at y diben hwn;

(b)

os yw'r Fangre ar unrhyw adeg yn cynnwys unrhyw ran ddibreswyl, dyrennir cyfanswm nifer pleidleisiau i'r rhan honno sy'n hafal i gyfanswm nifer y pleidleisiau a ddyrannwyd i'r unedau preswyl wedi'i luosi â'r ffactor A/B, lle mae A yn gyfanswm arwynebedd llawr mewnol y rhannau dibreswyl a B yn gyfanswm arwynebedd mewnol yr holl rannau preswyl. Rhaid penderfynu ar rannau dibreswyl ac arwynebedd llawr mewnol yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 2002. Rhaid cyfrifo mesur arwynebedd y llawr mewnol mewn metrau sgwâr, gan anwybyddu ffracsiynau o arwynebedd llawr sy'n llai na hanner metr sgwâr a chyfrif ffracsiynau o arwynebedd llawr sydd dros hanner metr sgwâr fel metr sgwâr cyfan;

(c)

yr aelod sy'n denant cymwys uned breswyl sydd â'r hawl i fwrw'r pleidleisiau a ddyrannwyd i'r uned honno, neu os nad oes tenant cymwys gan yr uned honno, yr aelod sy'n landlord uniongyrchol sydd â'r hawl honno. Ni fydd gan y landlord uniongyrchol yr hawl i bleidlais uned breswyl a ddelir gan denant cymwys nad yw'n aelod o'r cwmni RTM;

(ch)

landlord uniongyrchol rhan ddibreswyl o'r Fangre sydd â'r hawl i fwrw'r pleidleisiau a ddyrannwyd i'r rhan honno, neu os nad oes les o'r rhan ddibreswyl, y rhydd-ddeiliad sydd â'r hawl honno. Os oes mwy nag un person o'r fath, rhaid rhannu cyfanswm nifer y pleidleisiau a ddyrannwyd i'r rhan ddibreswyl rhyngddynt, yn ôl cyfran arwynebedd llawr mewnol eu rhannau perthnasol. Rhaid diystyru unrhyw hawl ganlyniadol i ffracsiwn o bleidlais;

(d)

os nad yw uned breswyl yn ddarostyngedig i unrhyw les, nid oes hawl i fwrw unrhyw bleidleisiau mewn perthynas â hi;

F1(dd)

mae gan unrhyw berson nad oes ganddo hawl fel arall i unrhyw bleidleisiau yr hawl i un bleidlais os yw’r person hwnnw—

(i)

yn rhydd-ddeiliad y Fangre,

(ii)

yn landlord o dan les neu lesoedd o’r cyfan neu unrhyw ran o’r Fangre, a

(iii)

yn aelod o’r cwmni;

F2(e)

rhaid i’r pleidleisiau sy’n arferadwy gan landlordiaid o dan lesoedd o’r cyfan neu unrhyw ran o’r Fangre gael eu capio ar draean o’r pleidleisiau sy’n arferadwy gan denantiaid cymwys.

X1(4)

Yn achos personau yr ystyrir eu bod yn gyd-aelodau o'r cwmni, caiff unrhyw berson o'r fath arfer yr hawliau pleidleisio sydd gan yr aelodau hynny ar y cyd, ond os oes mwy nag un person o'r fath yn cyflwyno pleidlais, naill ai'n bersonol neu drwy ddirprwy, caiff pleidlais y blaenaf ohonynt ei derbyn tra gwaherddir pleidleisiau'r lleill, a phenderfynir y flaenoriaeth yn ôl y drefn y mae enwau'r personau hynny yn ymddangos yn y gofrestr aelodau mewn perthynas â'r fflat neu'r les (yn ôl fel y digwydd) y mae ganddynt fuddiant ynddo neu ynddi.

Annotations

Textual amendments

F1

Sch. 2 art. 33(3)(dd) substituted (3.3.2025) by The RTM Companies (Model Articles) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/126), regs. 1, 2(3)(b)(i)

F2

Sch. 2 art. 33(3)(e) inserted (3.3.2025) by The RTM Companies (Model Articles) (Wales) (Amendment) Regulations 2025 (S.I. 2025/126), regs. 1, 2(3)(b)(ii)

Commencement

I1

Sch. 2 art. 33 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)

Editorial notes

X1

Sch. 2 art. 33(4): although no corresponding change has been made to the Welsh text of this provision, an amendment has been made to the English text in Sch. 1 art. 33(4) (30.6.2016) by The Companies and Limited Liability Partnerships (Filing Requirements) Regulations 2016 (S.I. 2016/599), reg. 1, Sch. 3 para. 9(b)