OpenLegislation

Paragraph 4 I1

England and Wales Not yet in force

In the Welsh language text, before section 52 insert—

“Y drosedd o roi tybaco etc. i bobl a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009

51A
(1)

Mae person (“A”) yn cyflawni trosedd—

(a)

os yw A, mewn cysylltiad â threfniadau o dan adran 53, yn rhoi yng Nghymru gynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts i berson a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 (“B”),

(b)

os nad yw’r rhoi yn digwydd naill ai—

(i)

yng nghwrs crefft, proffesiwn, busnes neu gyflogaeth B, neu

(ii)

yng ngŵydd person arall a anwyd cyn 1 Ionawr 2009,

(c)

os yw A, ar adeg y rhoi, yn gwybod bod cynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol neu bapurau sigaréts (pa un bynnag sy’n gymwys) yn cael eu rhoi, a

(d)

pan roddir y cynhyrchion tybaco, y cynhyrchion smygu llysieuol neu’r papurau sigaréts, os nad ydynt mewn pecyn—

(i)

sydd wedi ei selio, a

(ii)

sydd â chyfeiriad arno, at ddiben ei ddanfon i’r cyfeiriad hwnnw yn unol â threfniadau o fewn adran 53.

(2)

Ystyr “pecyn” yn isadran (1)(d) yw pecyn yn ychwanegol at y pecyn gwreiddiol y mae’r cynhyrchion tybaco, y cynhyrchion smygu llysieuol neu’r papurau sigaréts wedi eu cyflenwi ynddo at ddiben eu gwerthu drwy fanwerthu gan eu gwneuthurwr neu eu mewnforiwr.

(3)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)

Pan fo person (“y cyhuddedig”) wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd ymddygiad y cyhuddedig ei hun (ac eithrio yn rhinwedd adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr)) mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig ddangos—

(a)

bod y cyhuddedig yn credu, pan ddigwyddodd y rhoi, fod y person y rhoddwyd y cynhyrchion tybaco, y cynhyrchion smygu llysieuol neu’r papurau sigaréts iddo, neu berson arall a oedd yn bresennol ar adeg y rhoi, wedi cael ei eni cyn 1 Ionawr 2009, a

(b)

naill ai—

(i)

bod y cyhuddedig wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran y person hwnnw, neu

(ii)

na allai neb fod wedi amau’n rhesymol o olwg y person hwnnw fod y person wedi cael ei eni ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

(5)

At ddibenion is-adran (4)(b), mae’r cyhuddedig i gael ei drin fel pe bai wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran person—

(a)

os gofynnodd y cyhuddedig i’r person hwnnw am dystiolaeth o oedran y person hwnnw, a

(b)

pe bai’r dystiolaeth wedi argyhoeddi person rhesymol.

(6)

Pan fo person wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr), mae’n amddiffyniad dangos i’r person gymryd rhagofalon rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.”

Annotations

Commencement

I1

Sch. 5 para. 4 not in force at Royal Assent, see s. 175(5)