Paragraph 26 Cais am aelodaethI1
England and Wales
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i bob person sy'n dymuno dod yn aelod o'r cwmni draddodi i'r cwmni gais cyflawn am aelodaeth yn y ffurf ganlynol (neu mewn ffurf sydd mor agos at y ffurf ganlynol ag y mae amgylchiadau'n caniatáu, neu mewn unrhyw ffurf arall sy'n arferol neu a gymeradwyir gan y cyfarwyddwyr):
At Fwrdd [enw'r cwmni], Yr wyf i, [enw] o [cyfeiriad] yn denant cymwys o [cyfeiriad y fflat] ac yn dymuno dod yn aelod o [enw'r cwmni] yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthyglau Cymdeithasu'r cwmni ac i unrhyw reolau a wnaed o dan yr Erthyglau hynny. Yr wyf yn cytuno i dalu i'r cwmni swm o hyd at £1 os caiff y cwmni ei ddirwyn i ben tra byddaf yn aelod neu hyd at 12 mis wedi imi beidio â bod yn aelod. [Llofnodwyd gan y ceisydd] [Dyddiedig]
Nid oes hawl gan unrhyw berson i gael ei dderbyn yn aelod o'r cwmni onid yw'r person hwnnw, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill—
yn denant cymwys o fflat sydd yn y Fangre, fel a bennir yn adran 75 o Ddeddf 2002; neu
o'r dyddiad y mae'r cwmni'n caffael yr hawl i reoli'r Fangre yn unol â Deddf 2002, yn landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre.
Mae person sydd, ynghyd â rhywun arall neu rywrai eraill, i'w ystyried yn gyd-denant cymwys o fflat neu'n gyd-landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre, i'w ystyried, unwaith y bydd wedi ei dderbyn, yn gyd-aelod o'r cwmni mewn perthynas â'r fflat neu'r les honno (yn ôl fel y digwydd).
Rhaid i geisiadau am aelodaeth gan bersonau sydd i'w hystyried yn gyd-denant cymwys o fflat neu'n gyd-landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre, ddatgan enwau a chyfeiriadau pob un arall sydd â buddiant ar y cyd â hwy, ac ym mha drefn y maent yn dymuno ymddangos ar y gofrestr o aelodau mewn perthynas â'r cyfryw fflat neu les (yn ôl fel y digwydd).
Rhaid i'r cyfarwyddwyr, unwaith y byddant wedi eu bodloni ynglŷn â chais y person a'i hawl i fod yn aelod, gofrestru'r cyfryw berson yn aelod o'r cwmni.
Annotations
Commencement
- I1
Sch. 2 art. 26 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)
Editorial notes
- X1
Sch. 2 art. 26(4): although no corresponding change has been made to the Welsh text of this provision, an amendment has been made to the English text in Sch. 1 art. 26(4) (30.6.2016) by The Companies and Limited Liability Partnerships (Filing Requirements) Regulations 2016 (S.I. 2016/599), reg. 1, Sch. 3 para. 9(a)