Paragraph 35 Pleidleisiau pôlI1
England and Wales
Ceir galw am gynnal pôl ar benderfyniad—
cyn cynnal y cyfarfod blynyddol lle y bwriedir pleidleisio ar y penderfyniad, neu
mewn cyfarfod cyffredinol, naill ai cyn pleidleisio drwy ddangos dwylo ar y penderfyniad hwnnw neu'n union ar ôl datgan canlyniad pleidlais drwy ddangos dwylo ar y penderfyniad hwnnw.
Caiff y canlynol alw am gynnal pôl—
cadeirydd y cyfarfod;
y cyfarwyddwyr;
dau neu ragor o bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad; neu
person neu bersonau sy'n cynrychioli dim llai na degfed ran o gyfanswm hawliau pleidleisio'r holl aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad.
Ceir tynnu galwad am gynnal pôl yn ôl—
os nad yw'r pôl eto wedi ei gynnal, a
os yw cadeirydd y cyfarfod yn cydsynio i'w dynnu yn ôl.
Rhaid cynnal polau ar unwaith ac ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan gadeirydd y cyfarfod.
Annotations
Commencement
- I1
Sch. 2 art. 35 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)