Paragraph 38 Gwelliannau i benderfyniadauI1
England and Wales
Ceir cynnig gwelliant i benderfyniad cyffredin sydd i'w gynnig mewn cyfarfod cyffredinol, drwy benderfyniad cyffredin—
os rhoddir hysbysiad o'r gwelliant arfaethedig i'r cwmni, mewn ysgrifen gan berson sydd â hawl i bleidleisio yn y cyfarfod cyffredinol y bwriedir cynnig y gwelliant ynddo, ddim llai na 48 awr cyn cynnal y cyfarfod (neu ba bynnag amser diweddarach a bennir gan gadeirydd y cyfarfod), a
os nad yw'r gwelliant arfaethedig, ym marn resymol cadeirydd y cyfarfod, yn newid cwmpas y penderfyniad yn sylweddol.
Ceir cynnig gwelliant i benderfyniad arbennig sydd i'w gynnig mewn cyfarfod cyffredinol, drwy benderfyniad cyffredin—
os yw cadeirydd y cyfarfod yn cynnig y gwelliant yn y cyfarfod cyffredinol y bwriedir cynnig y penderfyniad ynddo, a
os nad yw'r gwelliant yn mynd ymhellach nag sydd ei angen i gywiro gwall gramadegol, neu wall arall nad oes a wnelo ddim â sylwedd y penderfyniad.
Os digwydd i gadeirydd y cyfarfod, gan weithredu'n ddidwyll, benderfynu yn anghywir bod gwelliant i benderfyniad allan o drefn, nid yw camgymeriad y cadeirydd yn annilysu'r bleidlais ar y penderfyniad hwnnw.
Annotations
Commencement
- I1
Sch. 2 art. 38 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)