Paragraph 39 Y dulliau cyfathrebu sydd i'w defnyddioI1
England and Wales
Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, ceir anfon neu gyflenwi unrhyw beth a anfonir neu a gyflenwir gan y cwmni neu i'r cwmni o dan yr erthyglau, mewn unrhyw ffordd a ddarperir yn y Deddfau Cwmnïau ar gyfer dogfennau neu wybodaeth yr awdurdodir, neu y gwneir yn ofynnol, gan unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau hynny eu hanfon neu eu cyflenwi gan y cwmni neu i'r cwmni.
Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, ceir anfon neu gyflenwi hefyd unrhyw hysbysiadau neu ddogfennau sydd i'w hanfon neu'u cyflenwi i gyfarwyddwr, mewn cysylltiad â gwneud penderfyniadau gan gyfarwyddwyr, yn y dull y mae'r cyfarwyddwr hwnnw am y tro wedi gofyn am i'r cyfryw hysbysiadau neu ddogfennau gael eu hanfon neu'u cyflenwi.
Caiff cyfarwyddwr gytuno gyda'r cwmni y ceir ystyried y bydd y cyfarwyddwr hwnnw wedi cael hysbysiadau neu ddogfennau a anfonir ato mewn ffordd benodol o fewn amser penodedig ar ôl eu hanfon, ac y bydd yr amser penodedig yn llai na 48 awr.
Annotations
Commencement
- I1
Sch. 2 art. 39 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)