Paragraph 40 Seliau cwmnïauI1
England and Wales
O dan awdurdod y cyfarwyddwyr yn unig y ceir defnyddio unrhyw sêl gyffredin.
Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu drwy ba ddull ac ym mha ffurf y defnyddir unrhyw sêl gyffredin.
Oni fydd y cyfarwyddwyr yn penderfynu fel arall, os oes gan y cwmni sêl gyffredin ac os gosodir y sêl honno ar ddogfen, rhaid i'r ddogfen gael ei llofnodi hefyd gan o leiaf un person awdurdodedig ym mhresenoldeb tyst sy'n ardystio'r llofnod.
At ddibenion yr erthygl hon, person awdurdodedig yw—
unrhyw gyfarwyddwr y cwmni;
ysgrifennydd y cwmni (os oes un); neu
unrhyw berson a awdurdodwyd gan y cyfarwyddwyr at y diben o lofnodi dogfennau y gosodwyd y sêl gyffredin arnynt.
Annotations
Commencement
- I1
Sch. 2 art. 40 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)