OpenLegislation

Paragraph 41 Archwilio a chopïo cyfrifon a chofnodion eraillI1

England and Wales

Yn ychwanegol at unrhyw hawl a roddir drwy statud, a heb randdirymu unrhyw hawl o'r fath, mae gan unrhyw aelod yr hawl, ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus i'r cwmni, i archwilio unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu o eiddo'r cwmni, ac i gael copi o'r cyfryw ar ôl talu unrhyw ffi resymol am gopïo. Mae hawliau o'r fath yn ddarostyngedig i—

(a)

unrhyw benderfyniad gan y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol;

(b)

yn achos unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu sydd, ym marn resymol y cyfarwyddwyr, yn cynnwys deunydd cyfrinachol y byddai ei ddatgelu yn groes i fuddiannau'r cwmni, hepgor neu dorri allan unrhyw ddeunydd cyfrinachol o'r fath (gan ddatgelu i'r aelod y ffaith bod hepgor neu dorri allan wedi digwydd); ac

(c)

unrhyw amodau rhesymol eraill a osodir gan y cyfarwyddwyr.

Annotations

Commencement

I1

Sch. 2 art. 41 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)