Paragraph 43 IndemniadI1
England and Wales
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ceir indemnio cyfarwyddwr perthnasol y cwmni neu gwmni cysylltiol, allan o asedau'r cwmni, rhag—
unrhyw atebolrwydd a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw esgeulustod, diffyg, tor-dyletswydd neu dor-ymddiriedaeth mewn perthynas â'r cwmni neu gwmni cysylltiol,
unrhyw atebolrwydd a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw mewn cysylltiad â gweithgareddau'r cwmni neu gwmni cysylltiol yn ei swyddogaeth fel ymddiriedolwr cynllun pensiwn galwedigaethol (fel y'i diffinnir yn adran 235(6) o Ddeddf Cwmnïau 2006),
unrhyw atebolrwydd arall a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw fel swyddog y cwmni neu gwmni cysylltiol.
Nid yw'r erthygl hon yn awdurdodi unrhyw indemniad a waherddid neu a wneid yn ddi-rym gan unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau Cwmnïau neu gan unrhyw ddarpariaeth arall o'r gyfraith.
Yn yr erthygl hon—
mae cwmnïau yn gysylltiol os yw un yn is-gwmni i'r llall, neu'r ddau yn is-gwmnïau i'r un corff corfforaethol, a
ystyr “cyfarwyddwr perthnasol” yw unrhyw gyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr y cwmni neu gwmni cysylltiol.
Annotations
Commencement
- I1
Sch. 2 art. 43 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)