Paragraph 44 YswiriantI1
England and Wales
Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu prynu a chynnal yswiriant, ar gost y cwmni, er budd unrhyw gyfarwyddwr perthnasol mewn perthynas ag unrhyw golled berthnasol.
Yn yr erthygl hon—
ystyr “cyfarwyddwr perthnasol” yw unrhyw gyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr y cwmni neu gwmni cysylltiol,
ystyr “colled berthnasol” yw unrhyw golled neu atebolrwydd a dynnwyd gan gyfarwyddwr perthnasol, neu y gallai cyfarwyddwr perthnasol ei thynnu, mewn cysylltiad â dyletswyddau neu bwerau'r cyfarwyddwr hwnnw mewn perthynas â'r cwmni, a chwmni cysylltiol neu unrhyw gronfa bensiwn neu gynllun cyfranddaliadau cyflogeion y cwmni neu gwmni cysylltiol, ac
mae cwmnïau yn gysylltiol os yw un yn is-gwmni i'r llall, neu'r ddau yn is-gwmnïau i'r un corff corfforaethol.
Annotations
Commencement
- I1
Sch. 2 art. 44 in force at 30.11.2011, see reg. 1(2)